Martyn Williams

Mae Martyn Williams wedi dweud ei fod yn edrych ymlaen at yr her o wynebu’r dyn sydd wedi ei ddisodli yn nhîm Cymru.

Fe fydd y blaenasgellwr yn chwarae i’r Barbariaid yn erbyn Cymru gan wynebu Sam Warburton, sydd gydag ef yn y Gleision ond wedi hawlio’r crys rhyngwladol rhif saith.

Fe fydd cyfle gyda’r hen ben i ddangos ei ddoniau yn y crys du a gwyn wrth i hyfforddwr Cymru, Warren Gatland, ddechrau paratoi ar gyfer Cwpan y Byd.

Ac yntau’n parhau ddau yn brin o 100 o gapiau i Gymru, dyma fydd y tro cyntaf i Williams chwarae yn erbyn Warburton.

Meddai Martyn

“Mae’n mynd i fod yn gêm ddiddorol,” meddai Williams. “Fe fyddai’n well gen i fod ychydig yn ifancaf i chwarae yn ei erbyn, ond fe fydda’ i’n mwynhau.

“Does dim amheuaeth y bydda’ i’n brysur yn ystod y gêm. Dw i’n siŵr o fod wedi dysgu mwy oddi wrth Sam nag y mae e wedi’i ddysgu gen i.

“Mae Sam yn chwaraewr gwych – mae mor gryf ac yn dadansoddi gemau’n dda – mae wastad yn mo’yn gwella”

“Mae’n mynd i fod yn seren fawr ac fe fydd yn chwarae i’r Llewod sawl tro.”