Bu’n rhaid i Leinster godi o’r bedd er mwyn ennill Cwpan Heineken ar ôl mynd 6 – 22 ar ei hol hi cyn hanner amser yn erbyn Northampton yn y rownd derfynol heddiw.

Y sgôr ar y chwiban olaf oedd 33 – 22 yn Stadiwm y Mileniwm yng Nghaerdydd, ar ôl tro ar fyd anhygoel yn yr ail hanner, wrth i Leinster sgorio 27 pwynt mewn 25 munud.

Maswr Iwerddon, Jonathan Sexton, oedd seren y gêm wrth iddo sgorio 28 pwynt a sicrhau ail fuddugoliaeth i’w glwb yng Nghwpan Heineken.

Ond roedd pethau’n edrych yn ddu iawn i’r Gwyddelod yn yr hanner cyntaf, ar ôl i Phil Dowson, Ben Foden a Dylan Hartley sgorio ceisiau dros Northmapton.

Leinster oedd y tîm gwanaf yn yr hanner cyntaf o bellffordd, ac roedd gan Northampton reolaeth dros bron i bob agwedd o’r gêm.

Newidiodd hynny’n gyfan gwbl yn yr ail hanner wrth i Jonathan Sexton sgorio dwy gais, ac fe gipiodd Nathan Hines y trydydd.

Sgoriodd Sexton y cyntaf o fewn pedwar munud o’r ailddechrau ac roedd yn amlwg yn hwb mawr i hyder y Gwyddelod.

Rhedodd Northampton allan o stêm ymhell cyn y chwiban olaf, ac roedd yn amlwg nad oedden nhw’n gwybod sut i ymateb wrth i’r gêm droi yn eu herbyn nhw.

Fe fydd Leinster yn gobeithio sicrhau’r dwbwl â buddugoliaeth yn erbyn Munster yn rownd derfynol y Cwpan Magners ddydd Sadwrn nesaf.

Daeth buddugoliaeth gyntaf Leinster yng Nghwpan Heineken yn nhymor 2008-2009.

Mae’r clwb rygbi o Ddulyn yn ymuno â Munster, Leicester a Wasps ymysg y timau sydd wedi ennill dau Gwpan Heineken.

Mae Toulouse ymhell ar y blaen, wedi ennill pedwar cwpan.

Mae clwb o Iwerddon wedi ennill pedwar o’r chwe Cwpan Heineken diweddaraf.