Martyn Williams
 Bydd tri o gyn-gapteiniaid tîm rygbi Cymru yn seiclo bron i 400km yn America er mwyn codi arian at ganolfan sy’n gofalu am gleifion cancr.

Y llynedd mi gododd 15 o gyn-gapteiniaid y tîm cenedlaethol bron i hanner miliwn o bunnau ar gyfer Canolfan Gancr Felindre yng Nghaerdydd, pan aethon nhw ar daith noddedig i fyny Mynydd Kilimanjaro.

Aeth y £470,000 o’r fenter honno i dalu am waith ymchwil i gancr yr ysgyfaint.

Ddydd Mercher yma yn y Senedd ym Mae Caerdydd bydd y cyn-chwaraewyr Jonathan Davies, Martyn Williams a Mike Hall yn lansio’r ymgyrch ddiweddara’ i godi arian yng nghwmni’r Prif Weinidog Carwyn Jones.

“Doeddwn i ddim yn medru cymryd rhan yn y daith i Kilimanjaro oherwydd ymrwymiad arall, ac mi fuodd yna dipyn o dynnu coes oherwydd hynny, felly rydw i’n hapus iawn i gael arwain y reid feics yn Califfornia,” meddai Jonathan Davies sy’n Lywydd Cymdeithas Codi Arian Felindre.

“Rydw i eisiau sicrhau bod y daith yn codi arian sylweddol ar gyfer Canolfan Gancr Felindre,” ychwanegodd.

 Bydd y daith feics yn digwydd ym Medi 2012, yn cwmpasu taith o 390km o Barc Cenedlaethol Yosemite i San Francisco, gan ddiweddu ger y Golden Gate Bridge.

Mae lle i 50 o bobl ymuno â’r daith, gyda disgwyl i’r rheiny fydd yn cymryd rhan i dalu £5,000 am y fraint.

Ar gyfartaeledd pob blwyddyn mae Canolfan Gancr Felindre yn gofalu am dros 130,000 o gleifion.