Chris Dicomidis yw capten Pontypridd - mi dalodd deyrnged hael i Lanelli neithiwr.
Llanelli yw pencampwyr Uwch Gynghrair rygbi clybiau Cymru.
Neithiwr fe lwyddon nhw i atal Pontypridd rhag cwblhau’r dwbl ar ôl buddugoliaeth haeddiannol yn rownd derfynol Uwch Gynghrair y Principality ar Heol Sardis.
Pontypridd wnaeth ennill y Cwpan SWALEC a gorffen ar frig y tabl, ond roedd angen curo Llanelli i gael eu coroni’n bencampwyr clybiau Cymru.
Fe ddaeth trobwynt yn y gêm pan gafodd blaenasgellwr Pontypridd, Wayne O’Connor, y cerdyn goch am ddefnyddio ei ben-glin yn y ryc.
Manteisiodd Llanelli gyda Dan Newton, Nic Reynolds a Lee Williams yn sgorio ceisiau i roi’r ymwelwyr ar y blaen 24-6 gydag 20 munud o’r gêm yn weddill.
Fe darodd Pontypridd ‘nôl yn hwyr gyda cheisiau gan Huw Dowden a Rhys Downes i leihau’r bwlch i 24-18. Ond roedd Llanelli yn ddigon cadarn i ddal ymlaen am y fuddugoliaeth er gwaethaf pwyso gan Bontypridd ym munudau olaf y gêm.
Roedd Pontypridd wedi gorffen y tymor arferol 16 pwynt o flaen Llanelli yn yr adran a’u curo dair gwaith yn ystod y tymor.
Ond fe brofodd Llanelli eu bod nhw’n dîm cystadleuol ac mae capten Pontypridd Chris Dicomidis wedi eu llongyfarch ar eu hymdrechion.
Pontypridd: tymor da er gwaetha’r golled
“Mae’n rhaid llongyfarch Llanelli ar eu perfformiad. Yn sicr roedden nhw wedi troi lan a rhoi popeth mewn i’r gêm,” meddai Chris Dicomidis.
“I ennill unrhyw ras mae’n rhaid i chi fod y cyntaf yn croesi’r llinell, a doedden ni ddim tro hyn.
“Roedd yn gêm gystadleuol a aeth hi lawr i’r funud olaf, ond nid oedd i fod i ni y tro hwn.”
Roedd y capten yn credu bod colli Wayne O’Connor yn allweddol i ganlyniad y gêm gan fod y chwaraewr yn ffigwr mor ddylanwadol.
“Roedd heno’n siomedig, ond fe allwn ni edrych ‘nôl ar dymor ardderchog. Rydym ni wedi cyrraedd rownd gyn-derfynol Cwpan Prydain ac Iwerddon, gorffen ar frig y tabl ac ennill Cwpan SWALEC. Mae wedi bod yn dymor llwyddiannus i’r clwb.”