Dale Mcintosh
Mae hyfforddwr Pontypridd Dale McIntosh yn credu y gallai rownd derfynol Uwch Gynghrair y Principality yn erbyn Llanelli heno fod yn “glasur” wrth iddo alw ar ei dîm i gwblhau’r dwbl.
Mae Pontypridd eisoes wedi ennill y Cwpan Swalec a nhw oedd ar frig tabl Uwch Gynghrair y Principality. Ond fe fydd rhaid iddyn nhw guro Llanelli yn rownd derfynol y gêmau cwpan diwedd-tymor i orffen yn bencampwyr yr adran.
Mae Pontypridd eisoes wedi curo Llanelli dair gwaith y tymor hwn – dwywaith yn y gynghrair ac unwaith yng Nghwpan Prydain ac Iwerddon – ond mae bois y sosban wedi bod yn chwarae’n dda.
Codi eu gêm
Mae Dale McIntosh yn credu bod Llanelli’n dîm sy’n gallu codi eu gêm ar yr achlysuron mawr.
“Mae’n gêm enfawr i edrych ymlaen ati – mae ganddi’r holl nodweddion i fod yn glasur,” meddai Dale McIntosh.
“Mae’r ddau dîm yn hoffi ymosod a chwarae gyda thempo. R’yn ni’n gobeithio bod y cydbwysedd rhwng pŵer ein blaenwyr a’r gallu i ledu’r bêl yn ddigon i ni.
“Fe fydd Llanelli yn dod mewn i’r gêm yn llawn hyder ac fe allai fod yn dynn iawn rhyngon ni.”