Mae cefnwr y Crusaders, Elliott Kear, yn gobeithio chwarae’n gyson i’r clwb ar ôl serennu gwneud ei farc yn ddiweddar.

Mae’r Cymro 22 oed wedi dychwelyd i’r clwb yn llawn hyder yn dilyn cyfnod ar fenthyg gyda’r Hunslet Hawks yn y Bencampwriaeth.

Fe chwaraeodd i’r Crusaders am y tro cyntaf y tymor hwn yn erbyn Leeds Rhinos yn y Cwpan Her gan sgorio cais.

Fe ddaeth i’r amlwg unwaith eto yn y fuddugoliaeth 23-10 yn erbyn Wakefield Wildcats nos Wener ddiwethaf.

Mae hyfforddwr y Crusaders, Iestyn Harris wedi canmol perfformiadau Elliott Kear ac mae’r cefnwr yn benderfynol o gadw ei le yn y tîm.

“Roedd y fuddugoliaeth yn erbyn Wakefield yn ganlyniad ardderchog i ni,” meddai Elliott Kear.

“Dyma’r tro cyntaf i ni ennill gêm ers tro ac roedd yn holl bwysig er mwyn rhoi pwyntiau ar y tabl.

“Mae wedi bod yn dda cael chwarae rhai gemau i’r clwb.  Mae Iestyn wedi rhoi’r cyfle i mi ac rydw i wedi ceisio gwneud y mwyaf ohono.

“Mae yna lawer o chwaraewyr o safon yn y garfan yn enwedig ymysg y cefnogwyr ac

rwy’n gwybod bod rhaid i mi wneud y mwyaf o’r cyfleoedd yn y tîm cyntaf.

“Y bwriad nawr yw cadw fy lle yn y tîm.  Fe fydd yna lawer o waith caled i’w wneud.  Rwy’n mwynhau fy rygbi ac rwy’n gwybod y gallwn ni adeiladu ar y fuddugoliaeth yn erbyn Wakefield.”