Cynghrair Magners
Fe ddaeth tymor siomedig y Gweilch i ben mewn ffordd addas – gyda siom fawr yn rownd gyn-derfynol Cynghrair Magners.
Er eu bod wedi cael cais hwyr ac wedi pwyso’n galed am y munudau ola’, fe gafodd y Cymry eu curo’n llwyr gan Munster.
Roedd y Gweilch yn lwcus i fynd i mewn ar yr hanner ar ei hôl hi o ddim ond 8-3 ac fe ddaeth cais hwyr Richard Fussell â nhw o fewn cyrraedd i gêm gyfartal.
Ond Munster oedd wedi rheoli’r chwarae trwy’r rhan fwya’ ô’r gêm gan guro’r Gweilch yn y sgrymiau a’r llinellau a’u gorfodi i amddiffyn yn galed.
‘Siomedig’
Ar ôl y gêm, roedd prif hyfforddwr y Gweilch, Scott Johnson, yn cydnabod mai Munster oedd y tîm gorau.
“Roedd yn siomedig,” meddai. “Fe wnaethon ni ddangos digon o galon ac ymdrech ond wnaethon ni ddim gweithredu ein gêm gystal ag y bydden ni wedi hoffi.
“Fe wnaethon ni ddangos digon o gymeriad ond doedden ni ddim yn gallu cael gafael ar y bêl ar y dechrau. Y cwestiwn i ni yw ein bod wedi methu â chael pêl o’r chwarae gosod.
“Mae ein sgrym wedi bod yn feistrolgar trwy’r tymor, ond yn sydyn mae’n loteri.”