Harris yn hapus
Croesgadwyr 23 Wakefield Trinity Wildcats 10

Doedd rheolwr y Croesgadwyr ddim yn amau y byddai ei dîm yn ennill neithiwr – er iddyn nhw fynd ar ei hôl hi o 10-0 mewn llai na chwarter awr.

“Fe wnaethon ni gadw ein pennau a dangos aeddfedrwydd gwirioneddol,” meddai Iestyn Harris. “Fe allai’r sgôr fod yn fwy nag yr oedd.”

Roedd Wakefield, sydd gyda’r Crusaders ar waelod y tabl, wedi cael dau gais o fewn 13 munud ac roedd hi’n parhau’n 0-10 ar yr hanner.

Ar ôl hynny, fe afaelodd y Cymry yn y gêm a chael pedwar cais – trwy’r maswr Michael Witt, y canolwr Vince Mellars, yr eilydd Ryan O’Hara a’r mewnwr Rhys Hanbury.

Os oedd Harris yn fodlon, roedd hyfforddwr Wakefield yn flin – yn ôl John Kear, roedd y Croesgadwyr wedi cael mwy na’u siâr o benderfyniadau ffafriol gan y tîm dyfarnu.