Gavin Henson
Mae hyfforddwr cefnwyr Cymru, Rob Howley, wedi dweud na fydd presenoldeb Gavin Henson yn y garfan yn effeithio ar ysbryd y tîm cenedlaethol.
Mae disgwyl i ganolwr Toulon chwarae dros Gymru yn erbyn y Barbariaid mis nesaf- dyma fydd y tro cyntaf iddo wysgo’r crys coch ers Pencampwriaeth y Chwe Gwlad yn 2009.
Ond mae Howley yn credu bod aelodau eraill y garfan yn ymwybodol o safon chwarae Henson.
“Ni fydd yn effeithio ar ysbryd y garfan oherwydd mae rygbi rhyngwladol yn ymwneud â chwaraewyr o safon,” meddai Rob Howley.
“Rwy’n credu bod pawb yn ymwybodol bod Gavin yn chwaraewr rhyngwladol safonol.
“Nid yw wedi chwarae i Gymru ers tro ond mae pawb wedi bod yn siarad am y diffyg creadigrwydd yng nghanol y cae.
“Bydden i am chwarae gyda Gavin oherwydd mae ganddo’r gallu i gicio, pasio a rhedeg.
“Mae Gavin yn cael cyfle – rwyf eisoes wedi siarad gyda Gavin ac mae wrth ei fodd i fod yn y garfan. Rwy’n siŵr bydd ef yn cymryd ei gyfle.”