Mae asgellwr y Gweilch, Richard Fussell yn credu bod ei ranbarth yn agos iawn at gyrraedd eu gorau, wrth iddyn nhw baratoi i herio Munster yng ngemau ail gyfle’r Gynghrair Magners.

Fe fydd tîm Stadiwm Liberty yn herio’r tîm orffennodd ar frig y gynghrair ym Mharc Thomond nos Sadwrn.

Cael a chael oedd hi i bencampwyr llynedd gyrraedd y pedwar uchaf, wrth iddyn nhw grafu buddugoliaeth oddi-cartref yn erbyn Aironi, gan olygu eu bod yn gorffen gyda dim ond pwynt yn fwy na’r Scarlets.

Er hynny, mae Fussell yn credu bod ei dîm yn agos iawn at gyrraedd eu gorau, er bod eu perfformiadau wedi bod yn siomedig dros yr wythnosau diwethaf.

“Mae wedi bod ychydig bach yn ddi-siâp dros yr wythnosau diwethaf ond ry’n ni’n disgwyl am y sbarc yna” meddai’r asgellwr.

“Y peth pwysig ydy’n bod ni yn y rownd gynderfynol. Dy’n ni heb fod yn chwarae’n dda ond mae’n bwysig bod pethau’n newid nawr.”

Gwneud y pethau syml

Mae Fussell o’r farn bod angen i’r Gweilch wneud y pethau sylfaenol yn iawn ac adeiladu ar hynny.

“Pan fyddwn ni’n clicio, ry’n ni’n dîm anodd iawn i’n curo ond ry’n ni jyst yn disgwyl i hynny ddigwydd” meddai.

“Y cyfan sydd angen yw un perfformiad. Dyw gweddill y tymor yn golygu dim nawr, dim ond y ddwy gêm yma.”

“Gall unrhyw beth ddigwydd, does wybod sut mae pwysau’n gallu effeithio pobol. Mae Munster yn cynnwys hanner y tîm Gwyddelig a bydd rhaid i ni fod ar ein gorau i’w curo nhw.”

Chwaraewr y flwyddyn

Mae Fussell wedi cael tymor ardderchog i’r Gweilch wedi iddo symud o’r Dreigiau dros yr haf.

Mae safon a chysondeb ei chwarae yn golygu ei fod wedi cael ei ddewis yn chwaraewr y tymor gan gefnogwyr a hyfforddwyr y rhanbarth.

“Roedd yn dipyn o sioc i dderbyn y gwobrau” meddai Fussell.

“Dwi wrth fy modd yn chwarae rygbi, os ydw i’n chwarae’n dda  bod pobol yn cydnabod hynny yna mae’n fonws.”

Mae Fussell wedi chwarae llawer o’i rygbi fel cefnwr eleni , gyda Lee Byrne yn dioddef o anafiadau niferus dros y tymor.

“Mae chwarae fel cefnwr wedi bod yn chwa o awyr iach i mi a dwi wedi mwynhau. Dwi’n meddwl fy mod wedi addasu’n dda i’r safle” meddai’r chwaraewr sy’n debygol o orfod chwarae yno dros y tymor nesaf wrth i Byrne symud i Ffrainc.