Morgan Stoddart - dau gais yn yr hanner cynta'
Glasgow Warriors 29 Scarlets 37

Roedd hyfforddwr y Scarlets wrth ei fodd ar ôl i’w dîm sicrhau eu lle yng Nghwpan Heineken y flwyddyn nesa’.

Ac roed Nigel Davies yn hapusach fyth gyda pherfformiad ei dîm, yn llwyddo am unwaith i ddal eu gafael ar ôl mynd ar y blaen.

Yn ôl yr hyfforddwr, roedd hynny’n wahanol iawn i brofiad sawl un o gêmau’r tymor, lle maen nhw wedi dod yn agos ond wedi colli yn y munudau ola’.

Sicr o’u lle

Mae’r fuddugoliaeth a’r pwynt bonws yn golygu eu bod bellach yn chweched yng Nghynghrair Magners ar 57 pwynt, gyda gobaith gwan o hyd o gyrraedd y pedwar ucha’ a’r rownd gêmau cwpan.

Gyda’r Dreigiau’n colli yng Nghaeredin, mae’n sicr bellach y bydd y Scarlets yn un  o’r tri thîm ucha’ o Gymru yn y Gynghrair.

“Fe ddangosodd y chwaraewyr eu cymeriad a’u bod yn gallu chwarae’n hunanfeddiannol a chau pen y mwdwl ar ein gêmau,” meddai Nigel Davies.

“Roedden nhw’n canolbwyntio’n dda, roedd yna lawer yn y fantol a chwarae teg iddyn nhw, fe gadwon nhw at y cynnlun a chymryd eu cyfleoedd yn yr ail hanner.”

Y gêm

Dim ond 11-12 i’r Scarlets oedd hi ar yr hanner, ar ôl dau gais gan Morgan Stoddart, ar ôl 16 munud a 40.

Ond, yn yr ail hanner, fe groeson nhw dair gwaith, trwy’r blaenwyr Ben Morgan a Lou Reed a’r mewnwr Tavis Knoyle.

Gyda Stephen Jones yn cicio cyfanswm o 12 pwynt, roedden nhw 37-24 ar y blaen ar un adeg a doedd cais hwyr gan y Rhyfelwyr ddim yn ddigon.

“R’y ni wedi datblygu llawer yn ystod y tymor ac mae wedi bod yn gam positif ymlaen i’r tîm,” meddai Nigel Davies. “Mae perfformiad fel yna’r rhoi ffydd i bobol.”

Fe fydd gêm nesa’r Scarlets yn erbyn y Gleision.