Xavier Rush - sgoriwr yr ail gais
Y Gleision 29 Benetton Treviso 9

Fe lwyddodd y Gleision i godi i’r trydydd safle yng Nghynghrair Magners, ond heb argyhoeddi yn erbyn y tîm o’r Eidal.

Maen nhw bellach yn un o bedwar tîm sy’n cystadlu am dri lle yn rowndiau cwpan y Gynghair – maen nhw un pwynt y tu ôl i Leinster, un o flaen Ulster a  dau o flaen Y Gweilch.

Fe fydd rhaid iddyn nhw ddangos mwy o greadigrwydd, meddai’r hyfforddwr Dai Young – mae eu gêmau nesaf yn erbyn eu cyd Gymry, y Dreigiau a’r Scarlets.

Y gêm

Treviso oedd wedi mynd ar y blaen gyda chic gosb ond fe aeth ciciau Dan Parks â’r Gleision ar y blaen cyn iddyn nhw gael cais gosb o sgrym pan oedd gan yr Eidalwyr ddau ddyn yn y gell gosb.

Gyda throsiad Parks, roedd hynny’n gwneud y sgôr yn 19-9 ar yr hanner.

Er bod Parks wedi cael cic gosb arall ar ôl 12 munud o’r ail hanner, Treviso a gafodd y gorau ohoni gan fygwth llinell y Gleision am gyfnodau hir.

Yn y diwedd, fe gododd y Cymry’r pwysau gyda chais gan yr wythwyr Xavier Rush ar ôl gwthio cryf gan y pac.