Mae Marty Holah wedi cadarnhau ei fod yn gadael y Gweilch ar ddiwedd y tymor er mwyn ail ymuno gyda Waikato.

Ymunodd y chwaraewr rheng ôl 34 oed o Seland Newydd gyda’r rhanbarth o Gymru yn 2007, ond fe fydd yn dychwelyd i’w fam wlad erbyn dechrau tymor Cwpan ITM.

Chwaraeodd Holah 73 gêm i Waikato yn ystod ei gyfnod cyntaf gyda’r clwb yn ogystal â 81 gêm i’r Chiefs.

Enillodd 54 cap dros y Gweilch yn y Cynghrair Magners.

Dywedodd Holah ei fod wedi penderfynu dychwelyd adref er mwyn bod yn agosach at ei deulu.

“Dw i wedi mwynhau fy mhrofiad gyda’r Gweilch ar y cae ac oddi arno,” meddai Marty Holah.

“Ond rwy’n teimlo ei fod yn amser symud yn ôl adref er mwyn bod yn agosach at fy nheulu a fy ffrindiau a mwynhau chwarae dros fy nhalaith leol unwaith eto.

“Bydd rhaid i fi weld sut mae pethau’n mynd gan fy mod i’n dod at ddiwedd un tymor hir cyn dechrau un arall gyda Waikato.

“Bydd rhaid i mi asesu a gweld sut siâp sydd ar y corff.  Ond rwy’n mwynhau chwarae ac rwy’n dal i deimlo fod gen i rywbeth i’w gynnig.”