Gavin Henson
Fe fydd Gavin Henson yn cael gwybod yr wythnos nesaf a oes ganddo ddyfodol gyda Toulon ar ôl cael ei wahardd am wythnos am dorri rheolau’r clwb.

Mae yna adroddiadau bod y Cymro wedi ffraeo gyda dau o’i gyd-chwaraewyr yn dilyn y fuddugoliaeth yn erbyn Toulouse ddydd Sadwrn.

Dyma oedd ei ail gêm yn unig gyda’r clwb ers gadael y Saraseniaid ym mis Chwefror, ac mae’n bosib mai dyma fydd yr olaf.

Mae Toulon wedi gwrthod datgelu unrhyw fanylion ynglŷn â beth ddigwyddodd. Ond yn ôl adroddiadau mae’r Cymro’n cael ei feio am y ffrae.

“R’yn ni am adael i bethau dawelu a cael gwybod beth ddigwyddodd yn iawn,” meddai rheolwr Toulon, Tom Whitford.

“Fe fydd penderfyniad yn cael ei wneud am ei ddyfodol yr wythnos nesaf.  Mae Gavin wedi bod yn iawn o ran ei rygbi. Roedd wedi’i anafu pan gyrhaeddodd ond mae wedi chwarae’n dda yn ei ddwy gêm i ni.”

Fe fydd Henson yn colli’r gêm nesaf yn erbyn Perpignan y penwythnos nesaf, a dim ond un gêm arall o’r tymor arferol fydd ar ôl wedyn.

Mae disgwyl i Gavin Henson gyfarfod â llywydd y clwb, Mourad Boudjellal, a’r prif hyfforddwr, Philippe Saint-André, yn gynnar yr wythnos nesaf i drafod ei ddyfodol.

Yn dilyn y fuddugoliaeth yn erbyn Toulouse fe ddywedodd Henson ei fod yn gobeithio sicrhau cytundeb dwy flynedd gyda’r Ffrancwyr.

Roedd wedi gobeithio byddai ei gyfnod yn Toulon yn gymorth iddo yn ei ymdrech i ail ennill ei le yng ngharfan Cymru.