Gavin Henson

Mae prif bapur chwaraeon Ffrainc yn awgrymu bod dyfodol Gavin Henson yn ansicr gyda Toulon.

Yn ôl l’Equipe, mae penderfyniad y clwb i’w ddisgyblu am dorri rheolau yn bwrw cysgod tros ei ddyfodol yno, yn enwedig gan nad yw “wedi argyhoeddi” yn Ffrainc.

Mae’r papur hefyd yn awgrymu rheswm posib am y camau disgyblu – er nad yw’r clwb wedi rhoi unrhyw fanylion.

Ond mewn adroddiad heddiw, mae L’Equipe yn awgrymu bod cyn ganolwr Cymru wedi “dathlu gormod” ar ôl buddugoliaeth Toulon yn erbyn Toulouse dros y Sul a’i fod wedi gwrthdaro gydag un o’i gyd chwaraewyr.

Colli gêm allweddol

Mae Gavin Henson wedi cael ei wahardd am wythnos gan Toulon  ac fe fydd yn colli’r gêm allweddol yn erbyn Perpignan ddydd Sadwrn nesaf.

Ar hyn o bryd mae Toulon un pwynt oddi ar safleoedd y gemau ail gyfle cystadleuaeth Top 14 Ffrainc.

Os na fyddwn nhw’n gallu ennill eu lle yn y gemau ail gyfle, fydd gan Henson ond un gêm yn weddill i brofi i hyfforddwr Cymru, Warren Gatland ei fod yn barod i ddychwelyd i’r garfan genedlaethol.

Roedd hyfforddwr cefnwyr Cymru, Rob Howley wedi dweud yn gynharach mis yma y gallai Henson ennill ei le yng ngharfan Cymru unwaith eto.

Ond fe allai’r newyddion diweddaraf effeithio ar ei gyfle i chwarae yng Nghwpan y Byd yn Seland Newydd yn ogystal â’i yrfa gyda Toulon ar ôl y tymor yma.

Mae hyfforddwr Toulon, Philippe Saint-Andre, eisoes wedi dweud y bydd hi’n anodd cael hyd i le yn y tîm i Henson, Jonny Wilkinson a Matt Giteau sy’n ymuno â’r Ffrancwyr y tymor nesaf.