Nigel Owens - wrth ei fodd o gael ei ddewis
Mae Nigel Owens wedi dweud ei fod wrth ei fodd o gael ei ddewis yn un o’r dyfarnwyr ar gyfer Cwpan y Byd eleni. 

 Fe gafodd y Cymro ei ddewis yn rhan o banel dyfarnu deg dyn ar gyfer y gystadleuaeth yn Seland Newydd yn yr hydref. 

 Fe fydd y dyfarnwr enwog yn cael ei ymuno gyda Chymro arall, Tim Hayes sydd wedi cael ei ddewis yn un o saith swyddog  cynorthwyol. 

 “Mae’n deimlad gwych i gael fy newis.  Roedden ni wedi cael gwybod na fyddai neb nad oedd ddim yn perfformio yn ystod y flwyddyn ddiwethaf yn cael eu dewis, ac roedd nifer ohonom ni’n nerfus,” meddai Nigel Owens. 

 “Mae cael fy newis i gynrychioli rygbi Cymru yn un o ddim ond deg dyfarnwr yn anrhydedd arbennig.

 “Er fy mod i wedi mynd i Gwpan y Byd 2007, doeddwn i ond wedi dyfarnu mewn tua hanner dwsin o gemau rhyngwladol adeg hynny.  Y tro hwn fe fydd gennyf y profiad o tua 26 neu 27 gêm.

 “Rwy’n credu eich bod yn dysgu llawer o’r adegau hynny nad ydych wedi dyfarnu cystal.  Rwyf wedi cael rhai o’r profiadau hynny dros y pedair blynedd diwethaf.  Ond mae’r cyfnodau yna’n gwneud i chi weithio’n galetach i wella ar eich perfformiadau.”

 Mae rheolwr dyfarnwyr Undeb Rygbi Cymru, Rob Yeman wedi dweud bod y newyddion yn hwb mawr i rygbi Cymru. 

 “Mae’r Bwrdd Rygbi Rhyngwladol wedi dewis deg dyfarnwr, saith cynorthwyydd a phedwar dyfarnwr teledu.  Felly mae cael dau ar y rhestr allan o 21 yn llwyddiant ardderchog,” meddai Rob Yeman.