Mike Phillips - gadael y Gweilch ddiwedd y tymor yma
Mae Cyfarwyddwr Rygbi’r Gweilch, Scott Johnson wedi dweud y bydd y rhanbarth yn cytuno i Mike Phillips adael ar ddiwedd y tymor. 

 Roedd ’na ansicrwydd mawr wedi bod am ddyfodol mewnwr Cymru ers tro gydag adroddiadau ei fod yn barod i symud ymlaen i her newydd. 

 Fe ddywedodd Scott Johnson bod Phillips wedi bod yn awyddus i adael ers tymor diwethaf, ac nad oedd am gadw unrhyw un nad oedd eisiau bod yn rhan o’r rhanbarth. 

 Mae Phillips wedi cael ei gysylltu gyda sawl clwb gyda Toulouse yn arwain y ffordd am ei lofnod. 

 Ond mae Scott Johnson wedi dweud y bydd y Cymro yn parhau i chwarae dros y Gweilch tan ddiwedd y tymor wrth iddynt gystadlu am bencampwriaeth Cynghrair Magners. 

 Mae’r Gweilch eisoes wedi arwyddo mewnwr y Canterbury Crusaders, Kahn Fotuali’i ar gyfer y tymor nesaf ac maen nhw’n awyddus i ddatblygu Rhys Webb.  Maen nhw hefyd wedi ymestyn estyniad i gytundeb Tom Isaacs.