Mae cyn-faswr Cymru, Neil Jenkins, wedi amddiffyn penderfyniad Undeb Rygbi Cymru i wobrwyo capiau llawn ar gyfer y gêm yn erbyn y Barbariaid ym mis Mehefin. 

 Roedd Jenkins wedi chwarae i Gymru yn erbyn y Barbariaid ar dri achlysur gan gynnwys gêm cap llawn yn 1996 a’i gêm olaf dros ei wlad yn 2003. 

 Fe ddywedodd Jenkins, sy’n hyfforddwr sgiliau Cymru erbyn hyn, y byddai’r tîm cenedlaethol yn dal i drin y gêm fel gêm brawf beth bynnag fyddai ei statws swyddogol. 

 “Mae’n gyfle gwych i’r chwaraewyr allu anghofio am y gêm yn erbyn Ffrainc yn y Chwe Gwlad,” meddai Neil Jenkins. 

 “Oni bai am y gêm yn erbyn y Barbariaid, fe fyddai wedi bod yn amser hir i ni aros tan fis Awst i barhau gyda’n paratoadau ar gyfer Cwpan y Byd.

 “Fe fydd yn gêm dda ar gyfer ein paratoadau – os oes ’na gapiau i ennill neu beidio – ac fe fyddwn ni am sicrhau’r canlyniad.

 “Fe fyddwn ni’n targedu buddugoliaeth ac o ran hynny buddugoliaeth dda.

 “Ond does dim amheuaeth y bydd rhaid i Gymru fod ar eu gorau i ennill gan fod sawl enw mawr eisoes yn rhan o dîm y Barbariaid.”