Darren Edwards
Mae’r Dreigiau wedi cadarnhau mai Darren Edwards fydd Prif Hyfforddwr parhaol newydd y rhanbarth.
Roedd Edwards eisoes yn hyfforddi’r rhanbarth dros dro ers i Paul Turner adael ym mis Chwefror.
Mae Robert Beale wedi ei benodi’n Gyfarwyddwr Rygbi’r Dreigiau ac fe fydd yn gyfrifol am ddatblygiad tymor hir y rhanbarth.
Dywedodd Prif Weithredwr y Dreigiau, Mike Jenkins, bod Darren Edwards wedi profi ei allu ers cymryd yr awenau yn gynharach yn y tymor.
“Mae gennym ni dîm hyfforddi talentog yma ac mae Darren a Robert wedi dangos bod ganddyn nhw’r sgiliau a’r wybodaeth i arwain y rhanbarth i’r lefel nesaf,” meddai Mike Jenkins.
Dywedodd Darren Edwards ei fod wrth ei fodd yn cael ei benodi’n brif hyfforddwr parhaol.
“Mae gennym ni dîm hyfforddi a charfan gref. Fe fydd y Dreigiau yn cyflawni pethau mawr yn fuan.”