Alun Wyn Jones
Mae’r Gweilch wedi cadarnhau bod eu capten, Alun Wyn Jones wedi arwyddo cytundeb tair blynedd newydd gyda’r rhanbarth o Gymru.

Mae’r newyddion yn hwb i’r Gweilch a fydd yn colli sawl seren dros yr haf wrth i James Hook, Lee Byrne a Craig Mitchell adael.

Mae Alun Wyn Jones wedi dod trwy system academi’r Gweilch ac fe chwaraeodd eu gêm gyntaf dros y rhanbarth yn 2005.

Ers hynny, mae wedi mynd ‘mlaen i ymddangos 115 o weithiau i’r Gweilch yn ogystal â chynrychioli Cymru’n gyson a chwarae i’r Llewod yn Ne Affrica.

“Mae cael bod yma am dair blynedd arall yn wych. Dyma fy rhanbarth lleol ac rwy’n falch o gael cynrychioli’r Gweilch,” meddai Alun Wyn Jones.

“Rwy’n ddiolchgar i’r hyfforddwyr a’r cyfarwyddwyr am eu ffydd, a rhoi’r cyfle i mi barhau i chwarae gyda’r rhanbarth.

“Mae’r cytundeb wedi cymryd yn hirach na’r disgwyl i’w gwblhau ond doeddwn ni ddim eisiau chwarae yn unrhyw le arall.

“Mae’n braf fod yna ddiddordeb o Ffrainc a chynigion o glybiau eraill. Ond fe fyddai’n gwneud fy ngorau glas dros y Gweilch ac yn edrych ymlaen at y dyfodol.”