Matthew Rhys
Mae capten Cymru, Matthew Rees, y bydd y tîm sy’n gwneud y lleiaf o gamgymeriadau yn mynd a hi yfory.

Dim ond unwaith mae Cymru wedi maeddu Iwerddon yng Nghaerdydd er 1983.

Mae Cymru wedi caniatáu 13 o giciau rhydd yn eu herbyn ar gyfartaledd ym mhob gêm eleni.

“Mae yna bwysau arnom ni dydd Sadwrn, a’r rhwystr mwyaf yw ein camgymeriadau ein hunain,” meddai Matthew Rees.

“Mae’n rhaid i ni wneud yn siŵr ein bod ni’n gywir, yn ddisgybledig a pheidio â gwneud unrhyw gamgymeriadau.

“Yr unig beth sydd wedi bod yn rhwystredig ynglŷn â’r Chwe Gwlad eleni yw ein camgymeriadau ni ein hunain.

“Fe gafwyd dwy garden felen yn erbyn yr Alban, sy’n annerbyniol. Roedden ni hefyd wedi rhoi dwy gais ar blât i’r Eidal a‘u cadw nhw yn y gêm gyda’n diffyg disgyblaeth.”

Mae capten Cymru wedi galw ar ei dîm i berfformio’n gyson am yr 80 munud llawn yn erbyn y Gwyddelod.

“Y neges i ni yn erbyn Iwerddon yw bod angen perfformio’n dda am fwy nag ugain munud.

“Dyna’r her i ni.  Fe ddaw’r canlyniad os allen ni wneud hynny.”