Warren Gatland
Mae hyfforddwr Cymru, Warren Gatland, wedi dweud y bydd rhaid i Gymru atal Iwerddon rhag cael gormod o’r meddiant ddydd Sadwrn.

Mae’r Gwyddelod wedi sgorio saith cais yn y Chwe Gwlad hyd yn hyn. Mae eu blaenwyr Jamie Heaslip, Sean O’Brien a Paul O’Connell wedi gwneud y gorau o’u meddiant.

““Mae’n bwysig i ni atal rhai o’r unigolion yn nhîm Iwerddon rhag rhedeg â’r bêl. R’yn ni wedi llwyddo i wneud hynny’n effeithiol yn y gorffennol,” meddai.

Ond fe fydd rhaid i Gymru ac Iwerddon wella eu disgyblaeth. Mae’r ddau dîm wedi caniatáu 78 cic gosb a chic rydd yn eu herbyn er dechrau’r gystadleuaeth.

“Fe fyddwn ni’n siarad gyda’r dyfarnwr ynglŷn â’r ryciau cyn y gêm. Mae Jonathan Kaplan yn dyfarnu, ac r’yn ni’n gobeithio y bydd yna gyfle da i ennill pêl gyflym,” nododd Gatland.

“Fe fyddai ennill pêl gyflym o’r ryc yn rhoi cyfle i ni gadw’r bêl yn y dwylo a chwarae rygbi ymosodol.”

Dim ond unwaith mae Cymru wedi curo Iwerddon yng Nghaerdydd er 1983.