Jamie Roberts
Mae canolwr Iwerddon, Brian O’Driscoll, yn credu y bydd canolwr Cymru, Jamie Roberts, yn “fygythiad mawr” i’r Gwyddelod ddydd Sadwrn.

Roedd O’Driscoll a Roberts wedi ffurfio partneriaeth effeithiol iawn ar daith y Llewod yn Ne Affrica yn 2009.

“Mae Jamie yn chwaraewr talentog – mae’n fawr ac yn gallu cario’r bêl yn dda,” meddai Brian O’Driscoll.

“Mae o’r math o foi sy’n cyflymu wrth fynd mewn i dacl ac mae’n gwybod beth yw effaith y pŵer yna.

“Mae’n chwaraewr o’r safon uchaf ac mae’n gwella gyda phob gêm brawf y mae yn ei chwarae. Mae’n dipyn o fygythiad.”

Dywedodd O’Driscoll ei fod hefyd yn credu mai Shane Williams yw un o asgellwyr gorau’r byd.

“Mae Cymru ar eu gorau pan mae Shane Williams yn chwarae’n dda,” meddai.

“Mae’n cael ei ddwylo ar y bêl yn amlach na’r rhan fwyaf o’r asgellwyr rhyngwladol ac mae o’n ganolog i gemau mawr Cymru.”

‘Dim ofn’

Dywedodd capten Iwerddon nad yw’r Gwyddelod yn ofni chwarae yn Stadiwm y Mileniwm.

Fe enillodd Iwerddon y Gamp Lawn yng Nghaerdydd yn 2009 ac mae Munster wedi ennill y Cwpan Heineken yn Stadiwm y Mileniwm yn 2006 a 2008.

“Mae gan nifer o’r chwaraewyr atgofion melys o chwarae yno,” meddai.

“D’yn ni ddim yn hoffi chwarae yn Stadiwm y Mileniwm, ond does dim i’w ofni yno.

“Mae’n le swnllyd ac mae yna amgylchedd gwych. Mae yn sicr yn un o’r stadiwms gorau yn y byd i chwarae ynddo.”