Gyda nifer o anafiadau i chwaraewyr allweddol, mae gan hyfforddwr Cymru ddigon i gnoi cil drosto cyn enwi garfan i herio Lloegr yng ngêm gyntaf Pencampwriaeth y Chwe Gwlad. Euros Lloyd sy’n astudio’r opsiynnau sy’n agored i Warren Gatland.

Yn dilyn siom flynyddol y Cwpan Heineken mae’n bryd i ni unwaith yn rhagor edrych ymlaen at bencampwriaeth y Chwe’ Gwlad.  Yr adeg o’r flwyddyn lle mae cefnogwyr y bêl hirgron yn paratoi yn eiddgar am eu tripiau i Gaeredin a Pharis ac yn bendant eu barn y bydd Cymru yn ennill y gamp lawn.

Yr adeg yma o’r flwyddyn hefyd rydych yn siŵr o glywed trafodaethau di-ri yn nhafarndai ar hyd a lled Cymru ynglŷn â phwy ddylai Warren Gatland gynnwys yn ei garfan.  Pwy ddylai gael chwarae maswr?  Pwy sy’n haeddu gwisgo crys yr wythwr a phwy fydd yn gefnwr?  Dyma rai o’r cwestiynau sy’n cael eu holi ac yna eu trafod bob mis Ionawr.

Fodd bynnag, eleni mae’r trafodaethau yn gyffredinol wedi canolbwyntio ar yr anafiadau a’r gwaharddiadau sydd wedi taro carfan Cymru. Mae sawl un o’r anafiadau yn rhai mewn safleoedd allweddol pwysig hefyd ac mae hynny mae’n siŵr yn bryder mawr i Gatland.

Roedd colli chwaraewyr fel Richie Rees, Andrew Bishop, George North a Gethin Jenkins yn ergyd i’n gobeithion.  Mae Shane Williams a Lee Byrne hefyd wedi bod allan gydag anafiadau yn ddiweddar ac mae dal amheuaeth ynglŷn â’u ffitrwydd hwythau.

Y golled fwyaf

Mae’n rhestr hir iawn ond mae yna un enw arall sydd wedi ymuno â’r rhestr hon ar ddechrau’r wythnos.  Enw Adam Jones yw hwnnw wrth gwrs a heb unrhyw amheuaeth dyma’r golled fwyaf i Gymru.  Bydd yna fwlch enfawr yn rheng flaen Cymru, yn gorfforol ac yn seicolegol, wrth iddyn nhw redeg allan yn erbyn Lloegr ar 4 Chwefror ac nid wyf yn credu bod gyda ni unrhyw un amlwg i lenwi’r bwlch hwnnw.

Mae Adam Jones wedi datblygu i fod yn un o’r chwaraewyr gorau yn y byd yn ei safle.    Mae’n anodd credu faint mae Jones wedi datblygu o gofio yn ôl i’r dyddiau hynny lle byddai Steve Hansen yn ei ddefnyddio am hanner awr yn unig ar ddechrau pob gem ac yna ei dynnu oddi ar y cae oherwydd safon ei ffitrwydd.  Dyma brop a chwaraeodd ran flaenllaw wrth wthio sgrym De Affrica yn ôl yn ystod cyfres y Llewod yn 2009 – sgrym os gofiwch chi a oedd yn cael ei chwalu bob tro cyn cyflwyno Gethin Jenkins, Mathew Rees ac Adam Jones i’r frwydr.

Mae’n rhaid i mi ddweud y buaswn wedi bod wrth fy modd i gael gweld y tri yma’n chwarae gyda’i gilydd am y tro cyntaf ers tipyn.  Byddai’n rheng flaen hynod o gryf ac roeddwn wedi edrych ymlaen yn fawr i gael gweld sgrym Lloegr yn symud am yn ôl, a hynny wrth i Brian Moore gwyno yn y blwch sylwebu.

Bydd Paul James wrth gwrs yn llenwi esgidiau Gethin Jenkins ac er bod sgrymio James llawn cystal, os nad ychydig yn well na sgrymio Jenkins, bydd Cymru yn gweld eisiau cyfraniad prop y Gleision o amgylch y cae.  Nid oes neb amlwg ar gael i gymryd lle Adam Jones ac mae’r safle hwn wedi achosi nifer o broblemau i Gymru dros y blynyddoedd.  Mae Rhys Thomas o’r Scarlets wedi’i anafu felly a yw Gatland yn barod i roi cyfle i rywun fel Craig Mitchell, Scott Andrews, neu Ben Broster o’r Wasps?  Mae’n ofyn mawr i un o’r tri yma gamu i fyny ond mae’r opsiynau yn brin.

Y ddwy reng ôl

Credaf fod y dewis yn yr ail reng yn un syml.  Alun Wyn Jones a Bradley Davies yw’r ddau glo amlwg yng Nghymru ar hyn o bryd.  Beth yw’r opsiynau eraill?  Deiniol Jones, Luke Charteris a Lou Reed o’r Scarlets.  Tra bod dyfodol disglair o flaen Lou Reed nid yw’n barod eto ac mae Deiniol Jones a Luke Charteris yn eilyddion digon dibynadwy.  Mae Ian Gough yn rhywun y gellir ei ddibynnu arno hefyd.

Mae gan Gatland ambell i opsiwn yn y rheng ôl.  Yn bersonol teimlaf fod Ryan Jones yn well wythwr na chlo ac y dylai barhau a’i yrfa wrth fon y sgrym.  Dwi ddim yn deall penderfyniad y Gweilch i chwarae Jones yn safle’r clo tra bod Jonathan Thomas yn wythwr.  Nid yw Jonathan Thomas yn cario’r bêl yn ddigon effeithiol ac anaml y gwelwch ef yn hyrddio ymlaen a gwthio amddiffynwyr o’r neilltu.

Mae Andy Powell wrth gwrs yn gallu gwneud hynny ond mae yna gwestiynau mawr am ei ddisgyblaeth yn enwedig mewn gemau tynn.  Mae gan Gymru ddau flaenasgellwr ifanc talentog iawn y gallai wneud tipyn o argraff eleni.  Mae Sam Warburton a Dan Lydiate eisoes wedi dangos eu bod yn gallu dylanwadu ar gêm ac mae Josh Turnbull o’r Scarlets hefyd wedi creu argraff ar nifer gan gynnwys hyfforddwr Caerlŷr Richard Cockerill.  Mae digon o ddewis i Gatland yn y rheng ôl ac mae’n siŵr y byddai Martyn Williams yn ddigon parod i chwarae os oes angen!

Yr olwyr

Wrth ystyried yr olwyr byddwn yn ddigon hapus i roi cyfle arall i Lee Byrne yn safle’r cefnwr.  Chwaraeodd yn siomedig iawn yng ngemau’r hydref yn enwedig yn erbyn Seland Newydd lle’r oedd ar fai am o leiaf dau o geisiadau’r Crysau Duon.  Os yw Shane Williams yn holliach mae’n haeddu ei le ar yr asgell chwith gyda Halfpenny ar yr asgell arall.  Trueni nad yw George North yn cael cyfle i ddychwelyd i’r tîm ond mae digon o amser gydag ef eto.

Yn y canol byddwn yn hoffi gweld James Hook a Jamie Roberts yn cyfuno.  Yn bersonol dwi’n ffafrio chwaraewr creadigol yn y crys rhif 12 ac mae hynny’n bwysig wrth ystyried nad yw’n maswyr presennol ni yn gallu cynnig hynny.

Yn faswr dwi’n teimlo y bydd yn rhaid i Gatland barhau â Stephen Jones, a hynny oherwydd nad oes yna unrhyw un arall sy’n ddigon da.  Nid yw Stephen Jones ar ei orau o gwbl ac mewn gwirionedd nid yw erioed wedi bod yn faswr sydd â dawn greadigol naturiol.  Mae’n faswr saff y gallwch ddibynnu arno i wneud y pethau sylfaenol yn effeithiol.  Yr unig opsiwn arall sydd gan Gymru yw Dan Biggar ac yn sicr nid yw ef yn haeddu ei le ar sail ei berfformiadau i’r Gweilch yn ddiweddar.  Fel gwlad sydd wedi cynhyrchu rhai o faswyr gorau’r gêm ar hyd y blynyddoedd mae’r sefyllfa bresennol yn creu pryder.  Lle mae’r Barry John neu Phil Bennet nesaf?

Mike Phillips fydd dewis cyntaf Gatland fel mewnwr ond mae angen iddo ddechrau chwarae fel y gwnaeth ar daith y Llewod.  Nid yw wedi gallu ail ddarganfod y safon hwnnw ers dod adref o’r daith honno. Eto, gyda Richie Rees wedi’i wahardd mae’r gystadleuaeth i Phillips yn wan ac efallai ei fod yn rhy gyfforddus gan wybod nad oes neb amlwg i’w herio.

Cwpan y byd yn bwysicach?

Mae’n flwyddyn fawr i rygbi yng Nghymru ac er ei fod yn siom gweld Cymru heb nifer o’i chwaraewyr blaenllaw mae’n well bod yr anafiadau hyn yn digwydd nawr ac nid ym mis Hydref yn ystod Cwpan y Byd.  Y gystadleuaeth fawr eleni yw Cwpan y Byd a’r gobaith yw y bydd y tîm ar ei orau erbyn hynny ac yn gallu cystadlu gyda’r mawrion.  Fodd bynnag, gyda dechrau da yn erbyn Lloegr gall unrhyw beth ddigwydd. Yn amlwg, bydd tynged Cymru yng nghystadleuaeth y Chwe Gwlad eleni yn ddibynnol ar ganlyniad y gêm gyntaf yn erbyn yr hen elyn.

Y tîm – dewis Euros

15 Lee Byrne
14 Leigh Halfpenny
13 Jamie Roberts
12 James Hook
11 Shane Williams
10 Stephen Jones
9 Mike Phillips
8 Ryan Jones
7 Sam Warburton
6 Jonathan Thomas
5 Alun Wyn Jones
4 Bradley Davies
3 Craig Mitchell
2. Mathew Rees
1. Paul James