Fe fydd hyfforddwr tîm rygbi’r gynghrair Cymru, John Kear yn gael ei flas cyntaf ar arwain tîm ym Mhapua Guinea Newydd am y tro cyntaf yr wythnos nesaf wrth iddo arwain ei dîm yng Nghwpan y Byd.

Byddan nhw’n chwarae eu gêm gyntaf yn y gystadleuaeth yn Port Moresby ddydd Sadwrn.

Papua Guinea Newydd yw’r unig wlad yn y byd lle mae rygbi’r gynghrair yn brif gamp genedlaethol.

Ac mae John Kear yn edrych ymlaen at arwain Cymru o flaen stadiwm lawn.

“Mae’n brofiad newydd i fi,” meddai, “ac yn un o’r rhesymau pam ro’n i mor gyffrous wrth i ni fod yn yr un grŵp â Phapua Guinea Newydd.

“Ry’n ni wedi dangos ‘tweets’ iddyn nhw [chwaraewyr Cymru] o’r adeg pan aeth chwaraewyr Awstralia draw i Bapua Guinea Newydd fis Medi, pan oedd y bobol leol yn curo ar y bws ac yn eu cwrso nhw ym mhob man.

“Ry’n ni wedi ceisio egluro bod hyn yn unigryw, nad oes yna wlad arall lle mae rygbi’r gynghrair yn gymaint o gamp genedlaethol.

“Felly ry’n ni wedi ceisio’u paratoi nhw gorau gallwn ni ond fe fydd yn brofiad newydd.”

Ac roedd rhybudd arall gan John Kear i’w chwaraewyr i ofalu am eu dillad.

“Mae gyda ni gynlluniau wrth gefn rhag ofn bod gofyn i ni, ddywedwn ni, i roi ein cit i’r bobol leol.

“Ry’n ni’n mynd â set arall gyda ni fel ein bod ni’n iawn ar gyfer y gêm nesaf pe bai hynny’n digwydd!”

Gobeithion Cymru

Dydy Cymru ddim wedi ennill gêm yng Nghwpan y Byd ers 17 o flynyddoedd.

Ond mae John Kear yn disgwyl i’w dîm fod yn gystadleuol.

“Dy’n ni ddim y sefydliad mwyaf cyfoethog. Allwn ni ddim darparu’r holl adnoddau sydd ar gael i Awstralia a Lloegr ond mae’r ysbryd o fod â’n cefnau at y wal yn apelio i fi.

“Dydy Cymru ddim wedi ennill gêm yng Nghwpan y Byd ers 2000. Ro’n i ynghlwm wrth honno a gobeithio y gallwn ni ennill un yn y gêm nesaf dw i ynghlwm wrthi.”

Bydd Cymru’n herio Ffiji ar 5 Tachwedd ac Iwerddon wythnos yn ddiweddarach ar 12 Tachwedd.