Scarlets 13–18 Caerfaddon

Mae gobeithion y Scarlets yng Nghwpan Pencampwyr Ewrop fwy neu lai ar ben wedi iddynt golli eu ail gêm mewn wythnos yng ngrŵp 5 wrth i Gaerfaddon eu curo ar Barc y Scarlets nos Wener.

Ciciodd Rhys Priestland bwyntiau’r ymwelyr i gyd i roi cnoc enfawr i obeithion ei gyn ranbarth o sicrhau lle yn yr wyth olaf.

Agorodd Priestland y sgorio gyda chic gosb gynnar cyn i Leigh Halfpenny unioni pethau i Fois y Sosban.

Adferodd Priestland fantais Caerfaddon cyn i’r Scarlets sgorio cais cyntaf y gêm tua hanner ffordd trwy’r hanner cyntaf. Ac am gais, Steff Evans yn croesi o dan y pyst yn dilyn symudiad tîm gwych a ddechrewyd yn ddwfn yn eu hanner eu hunain, 10-6 y sgôr wedi trosiad Halfpenny.

Caerfaddon a oedd ar y blaen ar yr egwyl serch hynny diolch i ddwy gic gosb arall o droed Halfpenny.

Ychwanegodd y Cymro chwe phwynt arall wedi’r egwyl i ymestyn mantais yr ymwelwyr i wyth pwynt.

Sicrhaodd cic gosb hwyr Halfpenny bwynt bonws i’r Scarlets, eu hail mewn dwy gêm, ond go brin y bydd hynny’n ddigon iddynt ddianc o grŵp anodd a chyrraedd wyth olaf y gystadleuaeth.

.

Scarlets

Cais: Steff Evans 22’

Trosiad: Leigh Halfpenny 22’

Ciciau Cosb: Leigh Halfpenny 8’, 73’

.

Caerfaddon

Ciciau Cosb: Rhys Priestland 5’, 10’, 29’, 36’, 55’, 68’