Stpehen Jones (Llun: Y Scarlets)
Mae cyn-asgellwr Cymru wedi awgrymu y byddai Stephen Jones yn enw da i fod yn rhan o dîm hyfforddi Cymru wrth i Undeb Rygbi Cymru chwilio am olynydd i Warren Gatland.

Fe ddaeth hi i’r amlwg yr wythnos hon bod Warren Gatland yn ystyried gadael ei swydd yn Brif Hyfforddwr Cymru yn dilyn Cwpan y Byd 2019 yn Japan.

Mae’n debyg fod Undeb Rygbi Cymru wrthi’n llunio rhestr fer o bobol i’w olynu ac y byddan nhw’n cyhoeddi’r enw newydd erbyn haf 2018.

Mewn cyfweliad â golwg360, mae Shane Williams wedi awgrymu y byddai am weld Stephen Jones, cyn-faswr Cymru, yn cael y cyfle i ddod yn rhan o dîm hyfforddi Cymru.

“I fi, fi’n credu bydde’ cael rhywun fel Stephen Jones yna yn y gynghrair Cymru [yn dda].”

‘Chwaraewyr arbennig’

Ar hyn o bryd mae Stephen Jones, sy’n wreiddiol o Gaerfyrddin, yn rhan o dîm hyfforddi’r Scarlets.

“Bydd sbel cyn bod Warren Gatland yn gadael,” meddai Shane Williams gan ddweud fod y ddwy flynedd nesaf yn gyfle i gynllunio ymlaen.

Mae’n cydnabod fod llawer o “chwaraewyr arbennig yn dod trwyddo yng Nghymru.”

Warren Gatland

Mae Warren Gatland wedi bod yn Brif Hyfforddwr ar dîm rygbi Cymru ers 2007 gyda thîm rygbi Cymru wedi ennill tri theitl Chwe Gwlad a dwy Gamp Lawn tra ei fod wrth y llyw.

Mae adroddiadau y gallai Rob Howley a Dai Young fod yn y ffrâm hefyd i’w olynu.