George North (Liamwarrender CCA3.0)
Fe fydd yr asgellwr George North yn colli pob un o gêmau Cymru yn yr hydref.

Fe gyhoeddodd ei glwb, Northampton, y bydd y cawr cyflym allan am rhwng chwech ac wyth wythnos ar ôl cael ei anafu yn eu gêm yn erbyn y Saracens ddydd Sadwrn.

Roedd wedi brifo i ddechrau mewn tacl cyn methu â rhedeg wrth geisio ymuno ag ymosodiad.

Fe fydd yr anaf yn siom fawr i’r asgellwr ac yntau wedi cael dechrau da i’r tymor ar ôl blwyddyn neu ddwy siomedig.

Fe fydd Cymru’n chwarae yn erbyn Seland Newydd, Awstralia, Georgia a De Affrica yn y gêmau sy’n dechrau yng Nghaerdydd ar Dachwedd 11.