Warren Gatland (Llun: Joe Giddens/PA)
Mae prif hyfforddwr rygbi  Cymru, Warren Gatland, wedi mynnu nad oes ganddo unrhyw awydd i arwain y Llewod yn Ne Affrica yn 2021.

Yn ogystal â hynny, mae wedi datgelu yr oedd yn “casáu ymateb y wasg a’r agwedd negyddol” yn Seland Newydd yn ystod taith y Llewod eleni.

Ar un adeg yn ystod y trip chwe wythnos, gwnaeth papur newydd y New Zealand Herald gyhoeddi cartŵn o Warren Gatland mewn gwisg clown.

Yn sgil ei lwyddiant wrth arwain y Llewod ar eu taith yn Awstralia yn 2013, ac yn sgil ei ymdrechion wrth hyfforddi yn Seland Newydd mae Warren Gatland yn sicr o fod yn ddewis poblogaidd i nifer.

“Wedi cael digon”

“Dw i wedi cael digon,” meddai Warren Gatland. “Wnes i gasáu’r daith – do wir. Oeddwn i’n casáu ymateb y wasg a’r agwedd negyddol yn Seland Newydd.

“Wrth edrych yn ôl arno yn awr, roedd yna lawer o bethau oedd yn dod â boddhad i mi. Mi roedd hi’n gamp, ond roedd hi’n waith caled.”