Toulon 21–20 Scarlets
Colli mewn gêm agos fu hanes y Scarlets wrth iddynt ymweld â’r Stade Felix Mayol i wynebu Toulon yn eu gêm agoriadol yng Nghwpan Pencampwyr Ewrop brynhawn Sadwrn.
Er eu bod bymtheg pwynt ar ei hôl hi ar yr egwyl fe frwydrodd Bois y Sosban nôl i fod ar y blaen hanner ffordd trwy’r ail hanner. Bu rhaid iddynt fodloni ar bwynt bonws yn unig yn y diwedd serch hynny wrth i’r Ffrancwyr ennill o un pwynt.
Dechrau da Toulon
Dechreuodd Toulon ar dân gan groesi am ddau gais yn y deuddeg munud agoriadol.
Daeth y cyntaf i Eric Esande wedi iddo ryng-gipio pas Aled Davies cyn i’r bachwr, Guilhem Guirado, sgorio’r ail yn dilyn rhediad grymus Josua Tuisova ar yr asgell.
Trosodd Anthony Belleau’r cais cyntaf cyn ychwanegu dwy gic gosb i roi deunaw pwynt o fanatais i’r tîm cartref.
Y Scarlets a orffennodd yr hanner gryfaf serch hynny gan dreulio llawer o amser yn hanner y Ffrancwyr. Ciciodd Leigh Halfpenny bwyntiau cyntaf yr ymwelwyr, 18-3 y sgôr wrth droi.
Gêm o ddau hanner
Dechreuodd Toulon yr ail hanner gyda phedwar dyn ar ddeg yn dilyn cerdyn melyn Hugo Boneval yn hwyr yn yr hanner cyntaf.
Manteisiodd y Scarlets bron yn syth wrth i Johnny Mcnicholl sgorio ddau funud wedi’r egwyl ar ôl casglu cic letraws Rhys Patchell.
Dilynodd ail gais i’r ymwelwyr saith munud yn ddiweddarach wrth i Halfpenny groesi yn y gornel chwith cyn ychwanegu’r trosiad i roi ei dîm o fewn pwynt.
Roedd y Cymry ar y blaen am y tro cyntaf yn y gêm union hanner ffordd trwy’r ail hanner diolch i gic gosb gan Halfpenny ond wnaeth hi ddim aros felly yn hir.
Adferodd Francois Trinh-Duc ddau bwynt o fantais Toulon ychydig funudau’n ddiweddarach ac er i Halfpenny gael cyfle i daro nôl drachefn, methu a wnaeth yn erbyn ei gyn glwb.
Toulon a ddaeth agosaf at sgorio yn y munudau olaf ac yn y diwedd roedd Patchell yn ddigon hapus i gicio’r bêl allan a bodloni ar bwynt bonws.
Caerfaddon a fydd gwrthwynebwyr nesaf Bois y Sosban yng ngrŵp 5, a hynny ar Barc y Scarlets nos Wener.
.
Toulon
Ceisiau: Eric Escande 5’, Guilhem Guirado 11’
Trosiad: Anthony Belleau 5’
Ciciau Cosb: Anthony Belleau 9’, 22’, Francois Trinh-Duc 64’
Cerdyn Melyn: Hugo Bonneval 36’
.
Scarlets
Ceisiau: Johnny Mcnicholl 42’, Leigh Halfpenny 49
Trosiadau: Leigh Halfpenny 42’, 49’
Ciciau Cosb: Leigh Halfpenny 32’, 60’
Cerdyn Melyn: Tadhg Beirne 80’