Mae hyfforddwr rhanbarth rygbi’r Dreigiau yn pryderu bod gormod o chwaraewyr rygbi yn dibynnu ar gyffuriau.

Mewn cyfweliad gyda’r BBC, dywedodd Bernard Jackman ei fod wedi clywed am “sawl person” yn mynd yn gaeth i gyffuriau lleddfu poen yn ddiweddar, a hynny oherwydd eu bod yn awyddus i chwarae er gwaethaf eu hanafiadau.

“Dydyn ni ddim eisiau pobol i gymryd cyffuriau lleddfu poen er mwyn eu galluogi i chwarae, mae angen i ni wneud yn siŵr bod chwaraewyr yn deall hynny, ac mae angen i ni hefyd greu trefn ac awyrgylch lle y gallan nhw wella’n iawn.”

Daw sylwadau’r hyfforddwr wedi’r gêm rhwng y Dreigiau a’r Gleision y penwythnos diwethaf –  roedd 29 o chwaraewyr y Dreigiau wedi eu hanafu, a dim ond 22 o’r garfan oedd yn iach i chwarae.

Ac o’r 22 yna, fe gafodd yr asgellwyr Jared Rosser a Ashton Hewitt cyn y gêm a methu chwarae.