Leigh Halfpenny yw cefnwr y Scarlets.
Ar drothwy darbi fawr y penwythnos, mae un o sylwebwyr S4C wedi bod yn brolio chwaraewyr y Scarlets.

“Y tri chwaraewr sydd wedi gwneud argraff fawr arna i hyd yn hyn yw Steffan Evans, Aaron Shingler a Rhys Patchell,” meddai Gwyn Jones, cyn-gapten Cymru.

Mi fydd y Scarlets yn herio’r Gweilch nos yfory, ac yn ôl Gwyn Jones fe fydd y chwaraewyr yn ymwybodol bod yr hyfforddwr cenedlaethol yn gwylio.

“Beth bynnag y mae’r chwaraewyr a’r hyfforddwyr yn ei ddweud am ganolbwyntio ar y gêm hon yn unig, maen nhw’n gwybod y bydd Gatland yn gwylio gyda golwg ar ddewis ei garfan ar gyfer gemau rhyngwladol yr hydref.”

Scarlets yn ffefrynnau

Bydd y Scarlets yn teithio ar draws Pont Llwchwr i wynebu’r gelyn lleol yn Stadiwm y Liberty yn ffefrynnau amlwg oherwydd cychwyn gwael y Gweilch i’w tymor. Mae chwech newid i’r tîm a drechodd Connacht ym Mharc y Scarlets penwythnos diwethaf.

Daw Hadleigh Parks a Gareth Davies i mewn yn lle Scott Williams ac Aled Davies yn y llinell ôl. Ymysg y blaenwyr mae Wyn Jones yn cymryd lle Rob Evans a daw  Samson Lee nôl fewn yn bartner iddo ef a’r capten Ken Owens yn y rheng flaen. Mae Tadhg Beirne yn chwarae wythwr i’r Scarlets am y tro gyntaf yn absenoldeb yr Albanwr John Barclay, a bydd Lewis Rawlins yn yr ail reng gyda Jake Ball.

Bydd yr haneri rhyngwladol sydd yn gadael y Gweilch diwedd y tymor, Dan Biggar a Rhys Webb, yn cychwyn i’r tîm cartref a’r capten Alun Wyn Jones yn cychwyn gêm ar y Liberty am y tro gyntaf yn y Pro14. Ni fydd Scott Baldwin yn chwarae oherwydd anaf i’w law.

Gweilch v Scarlets yn fyw ar S4C nos yfory am 7:35

Tîm y Gweilch :- 15 Dan Evans 14 Cory Allen 13 Kieron Fonotia 12 James Hook 11 Jeff Hassler 10 Dan Biggar 9 Rhys Webb  1 Nicky Smith 2 Scott Otten 3 Ma’afu Fia 4 Bradley Davies 5 Alun Wyn Jones (Capten) 6 Dan Lydiate 7 Olly Cracknell 8 James King

Ar y Fainc  Sam Parry, Paul James, Dmitri Arhip, Lloyd Ashley, Dan Baker, Tom Habberfield, Sam Davies, Owen Watkin

Tîm y Scarlets :- 15 Leigh Halfpenny 14 Johnny Mcnicholl 13 Jonathan Davies 12 Hadleigh Parkes 11 Steff Evans 10 Rhys Patchell 9 Gareth Davies 1 Wyn Jones 2 Ken Owens (Capten) 3 Samson Lee 4 Jake Ball 5 Lewis Rawlins 6 Aaron Shingler 7 Will Boyde 8 Tadhg Beirne

Ar y Fainc :- Ryan Elias, Dylan Evans, Werner Kruger, David Bulbring, Josh Macleod, Aled Davies, Paul Asquith, Scott Williams.