Mae prif hyfforddwr y Scarlets, Wayne Pivac yn “siomedig” ar ôl i’r chwaraewr ail reng Tadhg Beirne benderfynu gadael y rhanbarth i ddychwelyd i Iwerddon.

Bydd e’n ymuno â Munster haf nesaf er mwyn ceisio ennill ei le yn nhîm Iwerddon.

Roedd e’n aelod o garfan fuddugol y Scarlets yn y PRO12 y tymor diwethaf, a hynny yn ei dymor cyntaf gyda’r clwb ar ôl gadael Leinster.

Dywed Wayne Pivac ei fod e’n deall rhesymau Tadhg Beirne am eisiau symud.

“R’yn ni’n siomedig o golli’r fath chwaraewr o safon a person o safon o’r grŵp ond yn deall yn iawn y dyhead sydd gan Tadhg i chwarae dros Iwerddon. 

“Mae e wedi datblygu’n dda dros y 14 mis diwethaf fel chwaraewr ac r’yn ni wedi gweld manteision yr holl waith caled mae e wedi’i wneud ers ymuno â’r Scarlets.

“Mae Tadhg yn canolbwyntio’n llawn ac wedi ymrwymo’n llawn i barhau â’i berfformiadau cryf am weddill y tymor.”