Dreigiau 29–13 Southern Kings

Cafodd y Dreigiau fuddugoliaeth bwynt bonws wrth i’r Southern Kings o Dde Affrica ymweld â Rodney Parade yn y Guinness Pro14 nos Sadwrn.

Doedd hi ddim mo’r grasfa yr oedd rhai yn ei darogan ond roedd hi’n fuddugoliaeth gyfforddus i’r Dreigiau yn erbyn tîm gwanaf y gystadleuaeth.

Hanner Cyntaf

Y Southern Kings a gafodd bwyntiau cyntaf y gêm diolch i gic gosb gynnar Pieter Steyn de Wet, ond y Dreigiau a gafodd y cais cyntaf wrth i Hallam Amos groesi wedi chwe munud yn dilyn trafod da yn y glaw.

Ychwanegodd Gavin Henson y trosiad cyn cyfnewid cic gosb yr un gyda Steyn de Wet a phedwar pwynt yn unig oedd ynddi hanner ffordd trwy’r hanner.

Y tîm cartref a orffennodd yr hanner gryfaf serch hynny gyda cais yr un i Elliot Dee ac Amos yn rhoi mantais iach iddynt ar yr egwyl.

Ail Hanner

Roedd y pwynt bonws yn ddiogel wedi dau funud o’r ail hanner diolch i ail gais Dee a phedwerydd ei dîm, cais a ddeilliodd, fel y cyntaf, o sgarmes symudol.

Tynodd y Dreigiau y droed oddi ar y sbardun wedi hynny yn erbyn gwrthwynebwyr gwan a chawsant eu cosbi toc cyn yr awr wrth i Andisa Ntsila dirio cais cyntaf y gwŷr o Dde Affrica.

Cafwyd cyfres o gardiau melyn yn y munudau olaf wrth i’r dyfarnwr golli amynedd gyda’r sgrymio gwallus ond roedd y gêm ar ben ym mhell cyn hynny.

Mae’r canlyniad yn codi’r Dreigiau i’r pumed safle yng Nghyngres B y Pro14 gan adael y Kings ar y gwaelod.

.

Dreigiau

Ceisiau: Hallam Amos 6’, 37’, Elliot Dee 33’, 42’

Trosiadau: Gavin Henson 7’, 39’, 44’

Cic Gosb: Gavin Henson 16’

Cardiau Melyn: Leon Brown 68’, Joe Davies 75’

.

Southern Kings

Cais: Andisa Ntsila 57’

Trosiad: Pieter Steyn de Wet 58’

Ciciau Cosb: Pieter Steyn de Wet 4’, 21’

Cerdyn Melyn: Entienne Swanepoel 75’