Munster 37–16 Gleision
Colli fu hanes y Gleision yn erbyn Munster yn y Guinness Pro14 brynhawn Sadwrn er iddynt fod ar y blaen ar hanner amser ar Barc Thomond.
Rhoddodd cais Josh Turbull ac un pwynt ar ddeg o droed Jarrod Evans dri phwynt o fantais i’r ymwelwyr o Gymru ar yr egwyl.
Dim ond un tîm oedd ynddi yn yr ail hanner serch hynny gyda cheisiau cynnar John Ryan a JJ Hanrahan yn rhoi’r Gwyddelod ar y blaen.
Croesodd Robin Copeland yn erbyn ei gyn glwb wedi hynny i sicrhau pwynt bonws i’r tîm cartref ac roedd y fuddugoliaeth yn gwbl ddiogel ddeg munud o’r diwedd diolch i ail gais Hanrahan a phumed ei dîm.
.
Munster
Ceisiau: Conor Murray 12’, John Ryan 51’, JJ Hanrahan 55’, 71’, Robin Copeland 67’
Trosiadau: Ian Keatley 13’, 52’, 56’, 68’
Ciciau Cosb: Ian Keatley 28’, 35’
.
Gleision
Cais: Josh Turnbull 23’
Trosiad: Jarrod Evans 24’
Ciciau Cosb: Jarrod Evans 7’, 19’, 30’
Cerdyn Melyn: Tau Filise 47’