Mae prif hyfforddwr y Gweilch, Steve Tandy wedi dweud bod y bachwr Scott Baldwin yn “dwp” ar ôl iddo fe gael ei frathu gan lew yn Ne Affrica.

Roedd y garfan yn Bloemfontein i herio’r Cheetahs ond cath o fath gwahanol sydd wedi dwyn sylw’r cyfryngau.

Colli’r gêm o 44-25 wnaeth y Gweilch, ond roedd eu bachwr yn yr ysbyty yn derbyn triniaeth i’w law ar ôl y digwyddiad mewn parc bywyd gwyllt.

Awgrymodd Steve Tandy fod Scott Baldwin wedi anwybyddu cyfarwyddyd i beidio â mynd yn rhy agos at yr anifail.

Dywedodd mewn cynhadledd i’r wasg nad oedd y digwyddiad “ddim byd i’w wneud â’r llew”.

“Fe wnaeth e frathu Scott ond pan y’ch chi’n rhoi eich llaw mewn ffens ac mae llew yno, yna fe gewch chi eich brathu.

“Roedd Scott yn dwp ac mae e’n eitha’ lwcus. Roedd yr amgylchfyd yn dda ac fe ddywedon nhw wrthon ni pa mor bell yn ôl i sefyll.

“Dw i ddim yn gwybod pa fath o sioe bywyd gwyllt mae Scott wedi bod yn ei gwylio lle gallwch chi fwytho llew ar ei ben fel pe bai’n gath fach.”

Datganiad

Mewn datganiad swyddogol, dywedodd y Gweilch: “Gall y Gweilch gadarnhau bod Scott Baldwin wedi cael anaf i’w law ddydd Mercher.

“Fe wnaeth meddyg y tîm drin briw ar ei law ac ar ôl hynny, fe gafodd ei gludo i ysbyty lleol yn Bloemfontein nos Iau am ragor o driniaeth i atal haint.

“Fe fydd e’n cael ei ryddhau fore Sadwrn i deithio adref gyda gweddill y garfan yn ôl ein cynlluniau.”