Cheetahs 45–25 Gweilch
Cafodd y Gweilch ddiwrnod i’w anghofio ar eu hymweliad cyntaf â De Affrica yn y Guinness Pro14 ddydd Gwener.
Dechreuodd pethau’n wael wrth i’r bachwr, Scott Baldwin, gael ei frathu gan lew cyn y gêm ac wnaeth pethau ddim gwella llawer wedi’r chwiban gyntaf wrth i’r Cheetahs sgorio chwe chais mewn buddugoliaeth gyfforddus yn Stadiwm Toyota.
Methodd Baldwin â chwarae ar ôl dioddef mân anafiadau mewn parc anifeiliaid yn gynharach yn y dydd ac roedd y Gweilch wedi eu brathu eto o fewn saith munud o’r gic gyntaf wrth i Torsten Van Jaarsveld groesi am gais cyntaf y tîm cartref.
Ychwanegodd Van Jaarsveld ail y Cheetahs cyn i’r Gweilch ymateb yn gryf gyda chais yr un i Rhys Webb a Kieron Fonotia.
Y gwŷr o Dde Affrica a orffennodd yr hanner orau serch hynny gyda wrth i gais Makazole Mapimpi eu rhoi nôl ar y blaen cyn troi.
Roedd yr ail hanner yn fwy unochrog. Rhoddodd ceisiau Mapimpi, Paul Schoeman a Francois Venter wedd mwy cyfforddus ar y sgôr wrth iddi orffen yn 45-25 o blaid y tîm cartref.
Hon oedd pedwaredd colled y Gweilch o’r bron wrth i’w dechrau siomedig i’r tymor barhau.
.
Cheetahs
Ceisiau: Torsten Van Jaarsveld 7’, 13’, Makazole Mapimpi 39’, 69’, Paul Schoeman 56’, Francois Venter 80’
Trosiadau: Ernst Stapelberg 19’, 40’, 57’, William Small-Smith 80’
Ciciau Cosb: Ernst Stapelberg 10’, 50’
Cerdyn Melyn: Torsten Van Jaarsveld 63’
.
Gweilch
Ceisiau: Rhys Webb 23’, Kieron Fonotia 31’, Dan Evans 72’
Trosiadau: Dan Biggar 24’, 32’
Ciciau Cosb: Dan Biggar 38’, 47’