Bydd y canolwr Scott Williams ynghyd ag Aled Davies yn cychwyn i’r Scarlets heno yn eu gêm Pro14 yn erbyn Connacht.

Ar ôl anafu eu pennau mewn gemau blaenorol, ni fydd Gareth Davies, Samson Lee na John Barclay ar gael.

Bydd Werner Kruger yn llenwi safle’r prop yn absenoldeb Samson Lee, ac mi fydd Josh MacLeod yn gwisgo crys rhif wyth yn lle John Barclay.

Hyd yn hyn mae Connacht ond wedi curo un tîm yn y gystadleuaeth sef y Southern Kings, ond mae disgwyl gwell wrth i Tiernan O’Halloran ddychwelyd i’r cae.

“Ar Connacht yr ydym ni’n canolbwyntio’n bennaf,” meddai Hyfforddwr y Scarlets, Wayne Pivac. “Dydyn ni ddim eisiau colli pedwar neu pum pwynt wythnos yma.”

Y Timau:

Scarlets: Leigh Halfpenny, Johnny Mcnicholl, Jonathan Davies, Scott Williams, Steff Evans; Rhys Patchell, Aled Davies; Rob Evans, Ken Owens (capten), Werner Kruger, Jake Ball, David Bulbring, Aaron Shingler, Will Boyde, Josh Macleod.

Ar y fainc: Emyr Phillips, Dylan Evans, Simon Gardiner, Tadhg Beirne, Lewis Rawlins, Jonathan Evans, Paul Asquith, Tom Prydie.

Connacht: Darragh Leader; Tiernan O’Halloran, Bundee Aki, Tom Farrell, Cian Kelleher; Jack Carty, Caolin Blade; Denis Buckley, Tom McCartney (capten), Conor Carey, Ultan Dillane, Quinn Roux, Jake Heenan, Jarrad Butler, Eoin McKeon.

Ar y fainc: Shane Delahunt, Denis Coulson, Finlay Bealham, Gavin Thornbury, Eoghan Masterson, Kieran Marmion, Steve Crosbie, Eoin Griffin.

 

Parc y Scarlets, Medi 29, dechrau am 7.35yh ac yn fyw ar BBC 2.