Connacht 15–17 Gleision

Cipiodd y Gleision fuddugoliaeth oddi wrth Connacht ym munudau olaf y gêm wrth iddynt ymweld â Maes Chwarae Galway yn y Guinness Pro14 brynhawn Sadwrn.

Sgoriodd y canolwr, Willis Halaholo, ei ail gais o’r gêm ddau funud o’r diwedd cyn i drosiad Jarrod Evans ei hennill hi i’r ymwelwyr o Gymru.

Connacht a gafodd y gorau o’r hanner awr cyntaf ond roedd ôl gwaith caled Sean Edwards ar amddiffyn y Gleision a bu rhaid i’r Gwyddelod fodloni ar gic gosb Craig Ronaldson fel eu hunig bwyntiau yn yr hanner cyntaf.

Ac er iddynt dreulio llawer o’r deugian munud agoriadol yn eu hanner eu hunain, y Gleison a oedd ar y blaen wrth droi. Roedd Connacht i lawr i bedwar dyn ar ddeg yn dilyn cerdyn melyn John Muldoon a holltodd Halaholo trwy ganol yr amddiffyn i groesi o dan y pyst, 3-7 y sgôr wedi trosiad Steve Shingler.

Patrwm tebyg iawn a oedd i’r ail hanner wrth i Connacht bwyso a gorfodi’r Gleision i amddiffyn.

Fe wnaethant hynny’n llwyddiannus tan i’r cefnwr cartref, Darragh Leader, groesi yn y gornel chwith yn dilyn cyfnod hir o bwyso gan y Gwyddelod ar yr awr.

Rhoddodd hynny Connacht bwynt ar y blaen ond wnaeth hi ddim aros felly yn hir cyn i gic gosb Shingler adfer mantais y Gleision.

Roedd hi’n ymddangos fod cais Shane Delahunt a throsiad Leader wedi ei hennill hi i’r tîm cartref bum munud o’r diwedd ond wnaeth y Gleision ddim rhoi’r ffidl yn y to.

Ar ymweliad prin â dau ar hugain y Gwyddelod fe ddaeth Halaholo o hyd i fwlch arall yn eu hamddiffyn i unioni’r sgôr gyda dau funud yn weddill.

Roedd y trosiad yn un anodd i Evans yng ngwynt Galway ond mesurodd y maswr ifanc ei gic yn berffaith i ennill y gêm i’r Gleision.

.

Connacht

Ceisiau: Darragh Leader 60’, Shane Delahunt 75’

Trosiad: Darragh Leader 77’

Cic Gosb: Craig Ronaldson 11’

Cerdyn Melyn: John Muldoon 33’

.

Gleision

Ceisiau: Willis Halaholo 38’, 78’

Trosiadau: Steve Shingler 39’, Jarrod Evans 79’

Cic Gosb: Steve Shingler 64’