Treviso 16–6 Gweilch

Colli fu hanes y Gweilch nos Wener wrth iddynt deithio i’r Stadio Comunale di Monigo i wynebu Treviso yn y Guinness Pro14.

Un cais oedd yn y gêm wrth i berfformiad amddiffynnol trefnus yr Eidalwyr gael y gorau o’r Gweilch.

Cafodd y tîm cartref y dechrau perffaith gyda chais yn y munudau agoriadol. Y blaenasgellwr, Braam Steyn, yn tirio yn dilyn symudiad taclus yn syth o’r cae ymarfer.

Ciciodd Dan Biggar bwyntiau cyntaf y Gweilch yn fuan wedi hynny cyn i Ian McKinley ychwanegu dwy gic gosb i’w drosiad cynharach i ymestyn mantais yr Eidalwyr i ddeg pwynt.

Chwaraeodd Treviso ddeg munud gyda phedwar dyn ar ddeg wedi hynny diolch i gerdyn melyn Jayden Hayward ond un gic gosb o droed Sam Davies a oedd unig bwyntiau’r Gweilch y cyfnod hwnnw, 13-6 y sgôr wrth droi.

Cafodd y Gweilch ddigon o’r tir a’r meddiant yn yr ail hanner ond roedd amddiffyn Treviso yn drefnus ac effeithiol.

Doedd dim golwg croesi ar y Cymry a bu rhaid iddynt ddychwelyd adref heb hyd yn oed bwynt bonws yn y diwedd wedi i gic gosb hwyr Martin Banks roi’r eisin ar y gacen i’r tîm cartref, 16-6 y sgôr terfynol.

.

Treviso

Cais: Abraham Steyn 2’

Trosiad: Ian McKinley 3’

Ciciau Cosb: Ian McKinley 11’, 24’, Martin Banks 79’

Cerdyn Melyn: Jayden Hayward 29’

.

Gweilch

Ciciau Cosb: Dan Biggar 6’, Sam Davies 30’