Ken Owens
“Dyma brawf mawr cynta’r tymor,” meddai Ken Owens ar drothwy’r ornest oddi cartref yn erbyn Ulster heno.

Mae capten y Scarlets yn dychwelyd i’r tîm am y tro cyntaf y tymor yma.

Y gêm yn erbyn Ulster fydd trydedd gêm y Sgarlets yn y Guinness PRO14 y tymor hwn wedi dwy fuddugoliaeth swmpus a deheuig yn erbyn y Southern Kings a Zebre.

Y disgwyl yw y bydd Jonathan Davies hefyd yn gwneud ei ymddangosiad cyntaf i’r Scarlets heno er ei fod yn cychwyn ar y fainc.

Bydd Jake Ball a Leigh Halfpenny yn dychwelyd i’r tîm ar ôl gorffwys yn erbyn Zebre yn y fuddugoliaeth hawdd y penwythnos diwethaf.

Mae hyfforddwr y Scarlets, Wayne Pivac wedi sôn yn y gorffennol bod torf swnllyd y Kingspan ym Melffast wastad yn rhoi pwyntiau o fantais i Ulster – ond mae Ken Owens yn mynnu bod y Scarlets yn barod am y sialens.

“Mae’r gêm yma i gyd am wneud datganiad. Os ydan ni’n mynd i ennill y gynghrair dwywaith yn olynol dyma’r gemau ple rhaid dangos pwy ydych chi a’ch bod chi’n gallu’i wneud. Edrychwch ar Munster, Leinster a’r Sarries yn Lloegr. I fod yn y frwydr, i gyrraedd y gemau ail-gyfle yn gyson rhaid mynd i lefydd anodd fel yma ac ennill. Ni’n mynd i Belffast gyda hyder, ond rydym yn gwybod mai dyma brawf mawr gynta’r tymor.”

Mae’r gêm yn fyw ar BBC Wales am 7:30 heno.