Sam Warburton
Mae’r chwaraewr rygbi Sam Warburton yn wynebu pedwar mis i ffwrdd o’r cae oherwydd llawdriniaeth i ddelio ag anaf i’w wddf.

Mae hyn yn golygu bydd y blaenasgellwr i Gymru yn methu gemau cyfres yr Hydref yn erbyn Awstralia, Georgia, Seland Newydd a De Affrica.

Yn ôl ei glwb, Gleision Caerdydd, cafodd yr anaf ei “waethygu” ymhellach yn ystod sesiynau ymarfer yr wythnos yma.

“Mae wedi derbyn sganiau ac wedi cael ei adolygu gan ymgynghorydd,” meddai ei glwb ddydd Mawrth. “Mae’n debygol bydd Sam yn methu cyfnod hyd at bedwar mis o hyd.”

Ergyd i’r tîm

Mae Sam Warburton wedi chwarae i Gymru 74 o weithiau ac mi arweiniodd y Llewod yn ystod eu dwy daith ddiwethaf – Awstralia 2013 a Seland Newydd.

Roedd disgwyl y byddai wedi chwarae rôl allweddol yn ystod gemau cyfres mis Tachwedd a Rhagfyr ac mi fydd ei absenoldeb yn dipyn o ergyd i dîm Cymru.