Roedd siom i’r Gweilch wrth iddyn nhw golli eu hail gêm yn Adran A y PRO14 yn Glasgow o 31-10.

Sgoriodd yr Albanwyr bedwar cais o’u cymharu ag un y Gweilch er mwyn sicrhau pwynt bonws.

Alex Dunbar, y canolwr, gafodd y cais cyntaf i Glasgow cyn i Finn Russell drosi ac ychwanegu cic gosb.

Fe wnaeth Dan Evans dorri’n glir i sgorio cais i’r Gweilch, a’r trosiad gan Sam Davies yn unioni’r sgôr cyn yr egwyl.

Ond sgoriodd Leonardo Sarto ac Adam Ashe gais yr un cyn i Alex Dunbar groesi am ei ail gais i gau pen y mwdwl ar berfformiad cadarn.

Mae Glasgow yn ddi-guro yn eu dwy gêm gyntaf yn y gynghrair ar ei newydd wedd.