Mae tîm rygbi merched Cymru wedi ennill eu gêm gyntaf yng Nghwpan y Byd draw yn yr Iwerddon.

Ar ôl colli eu dwy gêm gyntaf i dimau cryf Seland Newydd a Chanada, fe gurodd y Cymry Hong Kong 39-15 yn ninas Dulyn ddoe.

Er i Hong Kong fynd ar y blaen yn y gêm, fe ddaeth Cymru yn ôl a chipio’r fuddugoliaeth gyda help ceisiau gan Jess Kavanagh-Williams a Jasmine Joyce.

Bydd y Cymry yn chwarae nesaf yn y gemau i benderfynu pwy sy’n gorffen yn bumed, chweched, seithfed ac wythfed yn y gystadleuaeth eleni.

Maen nhw yn gorfod wynebu Canada eto, tîm sydd eisoes wedi eu trechu 15-0 y Sul diwethaf.