Mae gan dîm rygbi merched Cymru gêm fawr yn Nulyn ddydd Sul wrth iddyn nhw herio Canada yn eu hail gêm yng Nghwpan y Byd.

Collon nhw eu gêm agoriadol o 44-12 yn erbyn Seland Newydd yr wythnos hon.

Ac mae eu gwrthwynebwyr nesaf newydd guro Hong Kong o 98-0, gan sgorio 16 o geisiau, gan gynnwys pump i’r asgellwraig Magali Harvey.

Dywedodd is-hyfforddwr Cymru, Nick Wakely bod y tîm yn teimlo “rhwystredigaeth”, ac y gallen nhw fod wedi bod yn “fwy clinigol” yn erbyn y Crysau Duon.

“Rydyn ni’n canolbwyntio’n llwyr ar Ganada nawr.

“Mae ganddyn nhw athletwyr gwych ar draws y cae – maen nhw’n ymosod yn ddwfn ac yn rhedeg yn galed.”

‘Y sgôr ddim yn adlewyrchiad teg’

Yn ôl y capten, Carys Phillips, doedd y canlyniad yn erbyn Seland Newydd ddim yn adlewyrchiad teg o’r perfformiad.

Dywedodd hi wrth World Rugby: “Dw i’n credu bod angen i ni fod yn fwy cywir yn ein gêm ni.

“Dw i’n falch iawn o bob un o’r merched am y ffordd y chwaraeon nhw, ac roedd tipyn i’w gymryd o’r gêm yn erbyn Seland Newydd a bod yn falch iawn ohono.

“Mae angen i ni wella ein cywirdeb, yn sicr, a bod yn fwy clinigol gyda’r bêl, ond mae ein chwarae gosod yn aruthrol a dw i’n credu y gallwn ni sgorio yn erbyn unrhyw dîm oherwydd hynny.”