Leigh Halfpenny a'r crys newydd (Llun Undeb Rygbi Cymru)
Wedi tair blynedd o chwarae i Toulon yn Ffrainc fe fydd Leigh Halfpenny yn dychwelyd i Gymru – ond i Barc y Scarlets yn hytrach na’i hen ranbarth, y Gleision.

Yn ôl y disgwyl, mae’r cefnwr 28 oed wedi arwyddo cytundeb tair blynedd â chlwb rygbi’r Scarlets – cytundeb sydd wedi’i ariannu’n rhannol gan Undeb Rygbi Cymru.

Roedd y chwaraewr 71 cap yn allweddol ar daith y Llewod i Awstralia yn 2013 ac mae’n enwog ar draws y byd am ei gicio.

Chwaraewr profiadol

“Mae’n newyddion da iawn i’r clwb, cefnogwyr, y tîm a’r rhanbarth bod Leigh yn ymuno â ni,” meddai Wayne Pivac, Prif Hyfforddwr y Scarlets, a fydd yn amddiffyn eu teilt Pro12 eleni.

“R’yn ni wedi ychwanegu chwaraewyr newydd i’r garfan, talent ifanc gyffrous iawn, ac mae dod a chwaraewr fel Leigh i mewn yn cynnig lot o brofiad ac fe fydd yn gallu rhannu hwn gyda’r chwaraewyr ifanc.

“Mae wedi gweithio mas yn dda ac r’yn ni’n edrych ymlaen at groesawu Leigh ac mae e’n llawn cyffro ei fod yn ymuno â’r Scarlets oherwydd y ffordd r’yn ni’n chwarae’r gêm.”