George North dros Gymru
Fe ddychwelodd George North i’w hen glwb rygbi yn Llangefni neithiwr (nos Fercher, Awst 2) ar gyfer noson lle roedd yn cael ei anrhydeddu gyda’r teitl, ‘Llywydd Anrhydedus’.

Cychwynnodd y Monwysyn, sydd wedi cynrychioli Cymru a’r Llewod ar y cae rygbi, ar ei yrfa yn chwarae i’r tîm iau yng nghlwb rygbi Llangefni, ac o’r clwb hwnnw yr aeth yn ei flaen i chwarae i glybiau Pwllheli, Y Rhyl a thîm Gogledd Cymru dan 16 oed.

Rhwng 2010 a 2013, bu’r asgellwr yn chwarae i’r Scarlets a bellach mae wedi ymgartrefu gyda’r Northhampton Saints.

Fe gyflwynodd George North un o’i grysau Cymru wedi ei arwyddo, i’r clwb.