Paddy Jackson (Llun: Rygbi Iwerddon)
Mae un o sêr ifanc tîm rygbi Iwerddon, Paddy Jackson a’i gyd-chwaraewr yn Ulster, Stuart Olding yn wynebu cyhuddiadau o dreisio.

Mae erlynwyr yn honni bod y drosedd honedig wedi’i chyflawni yn ninas Belffast fis Mehefin y llynedd, ond mae’r ddau yn gwadu’r cyhuddiadau.

Mae’r ddau wedi’u gwahardd rhag chwarae tra bod yr achos yn cael ei gynnal – ac mae hwnnw’n debygol o bara gweddill y tymor rygbi.

Cawson nhw eu harestio a’u holi yn ystod yr haf diwethaf, ynghyd â dau o bobol eraill, a’u rhyddhau tra bod erlynwyr yn cynnal ymchwiliad.

Mae un o’r ddau wedi’i gyhuddo o droseddau rhyw, a’r llall wedi’i gyhuddo o gelu gwybodaeth a gwyrdroi cwrs cyfiawnder.

Bydd y pedwar yn mynd gerbron llys fis nesaf.