Jonathan Davies (Llun: David Davies/PA)
Mae canolwr Cymru, Jonathan Davies wedi cael ei enwi’n chwaraewr gorau cyfres y Llewod yn erbyn Seland Newydd, oedd wedi gorffen yn gyfartal 1-1 ddoe.

Gêm gyfartal 15-15 a gafwyd ar Barc Eden yn Auckland ddoe i sicrhau bod y Llewod yn gorfod aros 12 mlynedd arall i sicrhau eu buddugoliaeth gyfres gyntaf yn Seland Newydd ers 1971.

Dywedodd Jonathan Davies ei fod e’n “ostyngedig” ar ôl ennill y wobr.

Fe yw’r trydydd Cymro o’r bron i gael ei enwi’n chwaraewr gorau’r gyfres, ar ôl Leigh Halfpenny yn Awstralia yn 2013 a Jamie Roberts yn Ne Affrica yn 2009.

Mae’r canolwr wedi chwarae mewn chwe phrawf y Llewod yn olynol.