Mae prif hyfforddwr y Llewod, Warren Gatland wedi dweud y byddai’n croesawu’r cyfle i chwarae yn erbyn Seland Newydd unwaith eto er mwyn penderfynu pwy sy’n ennill y gyfres.

Daeth y gyfres i ben yn gyfartal 1-1 y bore ma yn dilyn gêm gyfartal 15-15 ar Barc Eden yn Auckland.

Ond mae lle i gredu bod posibilrwydd y gallai’r ddau dîm herio’i gilydd ar gae Twickenham ym mis Tachwedd pan fydd Seland Newydd ar daith yng ngwledydd Prydain.

Dywedodd Warren Gatland a phrif hyfforddwr Seland Newydd, Steve Hansen na fydden nhw’n dymuno cael amser ychwanegol er mwyn sicrhau canlyniad y naill ffordd neu’r llall.

Barbariaid

Bydd y Crysau Duon yn herio’r Barbariaid yng nghartref tîm Lloegr ar 4 Tachwedd, ond byddai’r Llewod yn croesawu’r cyfle i herio’r tîm yn eu lle, meddai Warren Gatland.

Dywedodd: “Byddai hynny’n dda. Bydd rhaid i chi ofyn i’r PRL (Premiership Rugby Limited) a fydden nhw’n rhyddhau’r chwaraewyr.”

Roedd Lloegr wedi gofyn eisoes a fydden nhw’n cael herio’r Crysau Duon yn lle’r Barbariaid, ond wnaethon nhw roi’r gorau i’r syniad.

Pe na bai’r Llewod yn cael chwarae, y posibilrwydd arall yw y gallai’r Barbariaid gynnwys y pymtheg yn y tîm prawf er mwyn ail-greu’r sefyllfa, yn yr un modd ag y gwnaethon nhw pan herion nhw Seland Newydd yng Nghaerdydd yn 1973, ddwy flynedd ar ôl taith lwyddiannus y Llewod.